"Beth yw byw? Cael neuadd fawr
rhwng cyfyng furiau"

- Waldo

 

Yn ystod haf 2013, bu'r cerflunydd Ben Dearnley (a fu’n byw yn Nhŷ Capel Pen-sarn) yn gweithio ar brosiect y Garreg Lafar, sef y maen hir sy'n sefyll o flaen y Neuadd.

Noddwyd y garreg gan deulu lleol Croesheddig Newydd, a chludwyd y garreg lawr o'r gogledd gan Gareth Evans, Hafod Iwan. Gellir gweld fideo o rai o gymeriadau'r fro yn gosod y garreg yma.

Ar flaen y garreg mae'r enw 'Caerwedros' wedi ei gerfio mewn ysgrifen Geltaidd, ynghyd â chwpled enwog o waith Waldo Williams.

Ar y cefn mae cerfiadau o gymeriadau a golygfeydd nodedig y fro, megis y smyglwr Siôn Cwilt a Sant Tysilio. Gwelir hefyd ddarluniau o ffermwr ifanc  yn bugeilio'i ddefaid â'r haul yn machlud dros gaeau ac arfordir y fro. Dyfynnir cwpled o waith y bardd lleol, Tydfor Jones, hefyd.

Ewch draw i'r Neuadd am sbec i weld y garreg a gwerthfawrogi'r cerfluniau yn eu holl ogoniant.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r garreg.

 

 

“Milain yw’r gwynt, ymlaen â’r gwaith”.

- Tydfor