Codwyd Neuadd Goffa Caerwedros gan drigolion lleol a oedd yn awyddus i goffau eu cyfeillion a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd. Codwyd y syniad yn gyntaf yn Nhachwedd 1945 a ffurfiwyd pwyllgor i lywio’r gwaith yn Chwefror 1946. Codwyd cyllid yn lleol, yn ogystal â derbyn grantiau cyhoeddus at y gwaith.

Cafwyd rhodd o dir gan deulu Jenkins, Argwm, a phenderfynwyd ceisio codi neuadd helaeth ar lain o dir yn ffinio â Derw House, Caerwedros. Tra’n cynllunio, codwyd neuadd dros-dro ar lain o dir ar ochr uchaf yr un cae yn 1951 ar gost o £1,557 punt a 10 swllt. Fe agorwyd y Neuadd honno’n swyddogol ar nos Wener, 29 Chwefror 1952, Mrs Mary Jenkins, Argwm, y cymwynaswr caredig.

Roedd y neuadd dros-dro yn plesio gymaint fe benderfynwyd anghofio am y cynllun gwreiddiol ac fe drosglwyddwyd y darn tir presennol i berchnogaeth yr Ymddiriedolwyr lleol, yn rhodd gan deulu Argwm, ym mis Mai 1954. Yr ymddiriedolwyr cyntaf hynny oedd:


John Lloyd Jones, Penparcau
Evan Owen Evans, Arlwyn
John Griffiths, Bron Villa
Ieuan Davies, Hafod Iwan
Daniel Elwyn Hughes, Cyffionos
Jacob Thomas Jones, Llwynhenwas
Evan John Morris, Dre-fach
John Jones, Llain-frân


Bu Ben Thomas, Croes Castell, cyn brifathro yng Nghaerwedros, yn allweddol yn y trefniadau. Etholwyd ef, fel Ysgrifennydd, a 25 o unigolion eraill i ffurfio’r pwyllgor swyddogol cyntaf o 26, gan gynnwys cynrychiolwyr o gymdeithasau amlwg yr ardal.

Cyn dyddiau’r Neuadd bu cymdeithasau lleol yn cyfarfod yn Ysgol Caerwedros ac yn y capeli lleol (Capel Neuadd, Capel Nanternis, Capel Pen-sarn a Chapel Llwyndafydd). Cynhaliwyd eisteddfod leol am rhai blynyddoedd yn yr ysgol. Ond daeth y Neuadd ag adnoddau a chyfleoedd newydd i’r ardal. Daeth yn ganolfan gymdeithasol o bwys a chynhaliwyd cyngherddau a dramâu, yn ogystal â chynnal eisteddfod flynyddol. Daeth yn gartref i gymdeithasau fel y Clwb Ffermwyr Ifanc a Sefydliad y Merched ac fe agorwyd ei drysau deirgwaith yr wythnos ar gyfer cyfarfodydd a chwaraeon anffurfiol. Yn y 1970au sefydlwyd Adran o’r Urdd ac Ysgol Feithrin yn y neuadd a buont yn boblogaidd iawn am ddegawdau.

Bu gan C.Ff.I. Caerwedros gysylltiad cryf â’r Neuadd o’r cychwyn. Yn nechrau’r 1970au fe fu’r clwb yn arloesol iawn. Cynhyrchwyd pantomeim Cymraeg ganddynt dan arweiniad y ficer lleol, y Parch Bernard Evans, a’r bardd a’r digrifwr lleol, Tydfor Jones. Cymaint fu llwyddiant y pantomeim nes iddyn nhw ysbrydoli swyddogion Theatr Felin-fach, a oedd newydd ei sefydlu. Tyfodd Pantomeim Felin-fach yn dderwen ddiwylliannol anferth. Ond plannwyd y fesen wreiddiol yma yng Nghaerwedros.

Bu defnydd cyson ar y Neuadd am gyfnod o 40 mlynedd; ac er bod gwaith cynnal a chadw wedi digwydd yn gyson, erbyn yr 1990au roedd angen gwaith adfer sylweddol. Adnewyddwyd y Neuadd yn 1993, yn bennaf drwy roddion hael y gymdogaeth a rhai grantiau. Gosodwyd ystafelloedd storio pwrpasol ac fe gafwyd offer sain a goleuo i hwyluso perfformiadau. Sicrhaodd yr adnewyddu bod y Neuadd yn parhau’n adnodd canolog i gynnal bywyd cymdeithasol yr ardal.

Erbyn 2005, gyda phrysurdeb a phoblogrwydd y Neuadd ar gynnydd, roedd parcio wedi dechrau mynd yn broblem. Aethpwyd ati i geisio rhagor o dir gan ddisgynyddion teulu Argwm a bu cynlluniau ar droed i godi arian i osod maes parcio. Erbyn Rhagfyr 2006 roedd popeth yn ei le er mwyn i’r pwyllgor gychwyn ar y gwaith. Fodd bynnag, yn oriau man bore Calan 2007 fe darwyd y Neuadd gan fellten a llosgwyd yr adeilad yn ulw.

Gorfu i’r pwyllgor ystyried dyfodol y Neuadd o ddifri. Ymgynghorwyd yn lleol a chafwyd consensws cadarn mai ailgodi’r Neuadd ar y safle estynedig newydd oedd yr opsiwn gorau. Aethpwyd ati i gynllunio neuadd newydd gyfoes ac eang ei defnydd, gan ddenu grantiau i’w hariannu gan Cronfa’r Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. Yn y cyfamser, bu grwpiau a chymdeithasau lleol yn ffodus iawn o fedru manteisio ar gyfleusterau Festri Nanternis a Chlwb Carafannau Pen-cnwc.

Ar ôl cyfnod o bron i saith mlynedd o waith a chostau o tua £450,000, cododd y Neuadd Goffa Caerwedros fel ffenics o‘r lludw ac fe agorwyd y neuadd newydd ar 28 Medi 2013. Mae’r Neuadd newydd bellach yn fwy prysur nag erioed ac mae’n parhau i fod yn ganolog i fywyd a diwylliant ein cymuned leol, yn ogystal â denu defnyddwyr amrywiol o bell ac agos. Hir oes i Neuadd Goffa Caerwedros.