Cynhelir Sioe Gynnyrch Caerwedros ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Awst. Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn 1995. Bellach, y sioe yw uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn! Ceir adrannau ar gyfer cynnyrch cartref, gardd a fferm, ynghyd â chelf o bob math. Mae llawer o gymdeithasau a sefydliadau’r ardal yn cynnal stondin yn y sioe a cheir atyniadau amrywiol yn ystod y dydd, ynghyd ag adloniant gyda’r nos. Mae Pwyllgor y Sioe yn ddiolchgar i’r teulu Jones, Cyffionos, am gael defnyddio’r cae ger y Neuadd ar gyfer cynnal y sioe yn flynyddol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Llinos John ar 07814 216123.