Cwis

Mae Neuadd Goffa Caerwedros yn cynnig lle golau, cynnes, cyfforddus ac aml-bwrpas sy’n addas ar gyfer ystod eang o weithgareddau.

Yn gyfredol defnyddir y neuadd i’r dibenion canlynol:

• C.Ff,I Caerwedros
• Clwb Bowlio Dan-do Caerwedros
• Merched y Wawr y Bryniau
• Cyngor Cymuned Llandysiliogogo
• Marchnad Gynnyrch Caerwedros a’r ardal
• Dosbarthiadau Tai Chi
• Dosbarthiadau Pilates
• Clybiau dawns amrywiol
• Gweithgareddau gan gapeli ac eglwysi’r ardal
• Cangen Siôn Cwilt, Plaid Cymru
• Meddygfa Ceinewydd
• Sesiynau hyfforddi achlysurol
• Ymarferion bandiau pop, roc a gwerin

Mae’r neuadd hefyd ar gael ar gyfer defnydd preifat, e.e.:

• partion priodas
• partïon pen-blwydd
• dathliadau teuluol
• derbyniadau angladdol

Mae Pwyllgor y Neuadd hefyd yn cynnal rhaglen fisol o weithgareddau cymunedol sy’n cynnwys:

• Noson Cwis a Chyrri
• Cyngherddau cerddorol
• Dramâu
• Barbeciw blynyddol
• Gwasanaeth carolau
• Teithiau cerdded

Beth am ymuno ag un o’r gweithgareddau uchod neu ddechrau eich gweithgaredd eich hun?

Ceir mwy o wybodaeth ar galendr y neuadd.