Back to Top
 
 
 

Page

COVID-19

Yn dilyn codi rheoliadau COVID mewn mannau cyhoeddus, mae croeso mawr i grwpiau ac unigolion ddefnyddio’r Neuadd heb gyfyngiadau. Fodd bynnag, i gynnal iechyd cyhoeddus, anogir defnyddwyr i ddefnyddio’r diheintydd dwylo, i wisgo mwgwd a chadw pellter rhesymol. Diolch.

 

Neuadd Goffa Caerwedros


Croeso i wefan Neuadd Goffa Caerwedros.


Lleolir y neuadd yng nghalon Bro Siôn Cwilt yng Ngheredigion. Agorwyd y neuadd ar ei newydd wedd ym Medi 2013, gan ddarparu:

 

• ystafell fawr aml-bwrpas

• cegin gyda chyfarpar cyfoes

• byrddau a chadeiriau cyfforddus

• cyfarpar amlgyfrwng ar gyfer perfformiadau a chyflwyniadau

• cyfleusterau i bobl anabl


Os ydych yn chwilio am leoliad i’ch gweithgaredd neu fan cwrdd i’ch clwb neu fudiad, cysylltwch â ni.

Gallwch ffonio Ysgrifennydd y Neuadd ar: 01545 560255

 

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook.

 

Mae Neuadd Caerwedros yn elusen gofrestredig ac yn cael ei redeg gan bwyllgor gwirfoddol lleol.

 

Neuadd Goffa Caerwedros, Caerwedros, Llandysul, Ceredigion, SA44 6BL

 
 
 
 

 

 
 
 
 

 

 
 
 

"Beth yw byw? Cael neuadd fawr
rhwng cyfyng furiau"

- Waldo

 

Yn ystod haf 2013, bu'r cerflunydd Ben Dearnley (a fu’n byw yn Nhŷ Capel Pen-sarn) yn gweithio ar brosiect y Garreg Lafar, sef y maen hir sy'n sefyll o flaen y Neuadd.

Noddwyd y garreg gan deulu lleol Croesheddig Newydd, a chludwyd y garreg lawr o'r gogledd gan Gareth Evans, Hafod Iwan. Gellir gweld fideo o rai o gymeriadau'r fro yn gosod y garreg yma.

Ar flaen y garreg mae'r enw 'Caerwedros' wedi ei gerfio mewn ysgrifen Geltaidd, ynghyd â chwpled enwog o waith Waldo Williams.

Ar y cefn mae cerfiadau o gymeriadau a golygfeydd nodedig y fro, megis y smyglwr Siôn Cwilt a Sant Tysilio. Gwelir hefyd ddarluniau o ffermwr ifanc  yn bugeilio'i ddefaid â'r haul yn machlud dros gaeau ac arfordir y fro. Dyfynnir cwpled o waith y bardd lleol, Tydfor Jones, hefyd.

Ewch draw i'r Neuadd am sbec i weld y garreg a gwerthfawrogi'r cerfluniau yn eu holl ogoniant.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r garreg.

 

 

“Milain yw’r gwynt, ymlaen â’r gwaith”.

- Tydfor

 

 

Gallwch  gysylltu gyda’r Ysgrifennydd ar 01545 560255,

neu anfon neges dros Facebook.

 
 
 
 

 

Cysylltu
 
 
 

Cynhelir Sioe Gynnyrch Caerwedros ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Awst. Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn 1995. Bellach, y sioe yw uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn! Ceir adrannau ar gyfer cynnyrch cartref, gardd a fferm, ynghyd â chelf o bob math. Mae llawer o gymdeithasau a sefydliadau’r ardal yn cynnal stondin yn y sioe a cheir atyniadau amrywiol yn ystod y dydd, ynghyd ag adloniant gyda’r nos. Mae Pwyllgor y Sioe yn ddiolchgar i’r teulu Jones, Cyffionos, am gael defnyddio’r cae ger y Neuadd ar gyfer cynnal y sioe yn flynyddol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Llinos John ar 07814 216123.

Tudalen 1 o 2