Prosiect y Garreg Lafar
"Beth yw byw? Cael neuadd fawr - Waldo Williams |
![]() |
Yn ystod haf 2013, bu'r cerflunydd enwog Ben Dearnley, yn gweithio ar brosiect y Garreg Lafar, sef cerflun sy'n sefyll o flaen y neuadd newydd.
Noddwyd y garreg gan deulu lleol Croesheddig Newydd, a daethpwyd â'r garreg i lawr o'r gogledd gan Gareth Evans a Ben. Gellir gweld fideo rai o gymeriadau'r fro yn gosod y garreg yma.
Bu'r neuadd yn ffodus iawn o gael Ben i gyfrannu ei amser a'i ddawn, ag yntau wedi ennill gwobrau am ei waith a wedi creu darluniau o enwogion megis Mark Foster a Oscar Pistorius cyn Gemau Olympaidd 2012.
Ar flaen y garreg mae'r enw 'Caerwedros' wedi ei gerfio mewn ysgrifen celtaidd. Ar y cefn mae cerfiadau o gymeriadau a golygfeydd nodedig Bro Sion Cwilt, megis y smyglwr Sion Cwilt a Sant Tysilio. Gwelir hefyd ddarlniau o ffermwrifanc yn bugeilio'i ddefaid a'r haul yn machlyd dros gaeau ac arfordir y fro.
Ewch draw i'r neuadd am sbec i weld y garreg a'r cerfluniau yn eu holl ogoniant.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r garreg.
Ewch i wefan Ben Dearnley i weld mwy o'i gampweithiau